Cartref
Sut i brynu ar-lein
Gwerthiant tocynnau Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd
Bydd gweddill tocynnau'r Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn mynd ar werth yng ngwanwyn 2012.
Bydd tocynnau pris llawn yn dechrau ar ychydig yn is nac £20 i'r Gemau Olympaidd a £10 i'r Gemau Paralympaidd, gyda phrisiau arbennig ar gael i bobl ifanc 16 oed ac iau a phobl hŷn sy'n 60 a throsodd.
Sylwch na fydd holl sesiynau a chategorïau prisiau ar gael. Am ragor o wybodaeth gallwch lwytho i lawr amserlen lawn y Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd, gan gynnwys prisiau tocynnau.
Fel noddwr balch y Gemau Olympaidd a Paralympaidd Llundain 2012, dim ond cardiau Visa (debyd, credyd, a rhagdaledig) a ellir eu defnyddio i brynu tocynnau. Os nad oes gennych gerdyn Visa ac rydych eisiau prynu tocynnau i Gemau Olympaidd a gemau Paralympaidd Llundain 2012, ewch i wefan Visa am ragor o wybodaeth am sut mae cael cynnyrch Visa (cardiau debyd, credyd a rhagdaledig). Os oes gennych gerdyn Visa Virtual a ddyroddwyd cyn 30 Medi 2011, gallwch roi arian ar y cerdyn hwn a'i ddefnyddio i brynu tocynnau ar-lein neu dros y ffôn.
Byddwch angen mewngofnodi i'ch cyfrif tocynnau er mwyn prynu tocynnau, felly gwnewch yn siŵr fod gennych eich manylion mewngofnodi yn barod. Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair gallwch ei ailosod nawr. Os dymunwch brynu tocynnau i'r Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ac nad ydych wedi creu cyfrif tocynnau London 2012 eisoes, gallwch ddechrau drwy gofrestru eich diddordeb gyda ni. Gadewch i ni wybod beth yw eich hoff chwaraeon a digwyddiadau ac fe allwn yrru e-bost atoch gyda gwybodaeth am y rhai sydd o ddiddordeb i chi.
Peidiwch â chael eich twyllo gan wefannau a sefydliadau ffug sy'n honni eu bod yn gwerthu tocynnau i'r Gemau. I wirio os yw gwefan yn sianel gwerthu swyddogol defnyddiwch ein gwiriwr gwefannau.
Preswylwyr gwledydd Ewropeaidd dynodedig
Os ydych yn breswylydd yn un o'r gwledydd isod, gallwch geisio am docynnau trwy eich Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol (NOC), Pwyllgor Paralympaidd Cenedlaethol (NPC) neu drwy Ail-werthwr Tocynnau Awdurdodedig (ATR) yn awr. Darllenwch Pwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol ac Ail-werthwyr Tocynnau Awdurdodedig neu Pwyllgorau Paralympaidd Cenedlaethol ac Ail-werthwyr Tocynnau Awdurdodedig yn awr am restr gyflawn o fanylion cyswllt.
Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, Y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, Y Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Groeg, Hwngari, Gwlad yr Iâ, Gweriniaeth Iwerddon, Yr Eidal, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden a'r Swistir.
Preswylwyr tu allan i'r DU a gwledydd Ewropeaidd dynodedig
Os nad ydych yn breswylydd y DU neu wlad Ewropeaidd ddynodedig, waeth beth fo'ch dinasyddiaeth, bydd rhaid i chi ymgeisio am docynnau ar gyfer y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd drwy eich Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol (NOC) neu Bwyllgor Paralympaidd Cenedlaethol (NPC). Gall rhai NOCau a NPCau apwyntio Ailwerthwr Tocynnau Awdurdodedig (ATR) er mwyn helpu'r cyhoedd dderbyn tocynnau a gwasanaethau sy'n berthnasol i Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012. Darllenwch Pwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol ac Ail-werthwyr Tocynnau Awdurdodedig neu Pwyllgorau Paralympaidd Cenedlaethol ac Ail-werthwyr Tocynnau Awdurdodedig am restr gyflawn o fanylion cyswllt os gwelwch yn dda.


